Welsh speakers invited by SSE SWALEC to share their views at new customer forum
11 Aug 2015
SSE SWALEC is inviting customers to share their experiences and views at a new customer forum in south Wales.
SSE’s customer forums have been running since 2012 - helping SSE to deliver improvements for customers, including simpler bills and the introduction of a money back Customer Service Guarantee.
The energy firm would now like to hear from Welsh speakers about their experiences as an SSE SWALEC customer. Gareth Wood, SSE SWALEC’s Customer Operations Director in Cardiff, encouraged customers to come forward to be considered if they wish to take part.
He said: “We are committed to doing right by our customers and continually improve the way we do things. With the Forum we can learn directly from our customers to see where we are doing well and where we can improve.”
The forum on Thursday 10 September will enable SSE SWALEC to better understand the level of support and information Welsh speakers require from the company.
The forum will be independently-chaired by Delyth Jewell, Policy Officer at Citizens Advice Cymru, who said: “As the statutory body representing energy consumers in Wales, Citizens Advice Cymru hears regularly about a broad range of issues customers can face. Energy suppliers can do a great deal to help their customers, as long as they listen to them and understand what they want and need.
“So I’m delighted to be chairing this forum, to make sure a range of SSE’s Welsh-speaking customers have a say in what the company does in future, based on what matters most to consumers in Wales."
Customers who wish to be considered for the forum should email their name, address and telephone number to fforwm@sse.com or call 0800 072 8616. SSE SWALEC customers will be purposively selected to reflect a range of profiles and experiences.
Siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwahodd gan SSE SWALEC i rannu eu safbwyntiau mewn fforwm newydd i gwsmeriaid
Mae SSE SWALEC yn estyn gwahoddiad i gwsmeriaid i rannu eu profiadau a’u safbwyntiau mewn fforwm newydd i gwsmeriaid yn Ne Cymru.
Mae fforymau cwsmeriaid SSE wedi bod yn digwydd ers 2012 – er mwyn helpu i SSE gyflenwi i gwsmeriaid, ar faterion fel biliau mwy syml, a chyflwyno Gwarant Gwasanaethau Cwsmeriaid arian-yn-ôl.
Hoffai’r cwmni egni yn awr glywed gan siaradwyr Cymraeg am eu profiadau fel cwsmer SSE SWALEC. Mae cwsmeriad yn cael eu hannog i wirfoddoli er mwyn cael eu hystyried i gymryd rhan gan Gareth Wood, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SSE SWALEC, a ddywedodd:
“Rydym yn ymrwymedig i wneud y peth iawn i’n cwsmeriaid ac i wella’r ffordd rydym yn gwneud pethau yn barhaus. Gyda’r Fforwm, gallwn ddysgu’n uniongyrchol gan ein cwsmeriaid i weld ble’r ydym yn gwneud yn dda a ble y gallwn wella.”
Bydd y fforwm ar Ddydd Iau 10 Medi yn galluogi i SSE SWALEC ddeall yn well y lefel o gymorth a gwybodaeth y mae siaradwyr Cymraeg yn disgwyl gan y cwmni.
Bydd y fforwm yn cael ei gadeirio yn annibynnol gan Delyth Jewell, Swyddog Polisi Cyngor ar Bopeth Cymru, a ddywedodd: “Fel y corff statudol sydd yn cynrychioli defnyddwyr egni yng Nghymru, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn clywed yn rheolaidd am amrywiaeth fawr o faterion y mae cwsmeriaid yn eu wynebu. Gall cyflenwyr egni wneud llawer i helpu eu cwsmeriaid, trwy wrando arnynt a deall beth maent yn dymuno a beth sydd angen. Felly, rydw i wrth fy modd i gadeirio’r fforwm hwn, i sicrhau bod amrywiaeth o gwsmeriaid SSE sydd yn siarad Cymraeg yn cael dweud eu dweud ar beth mae’r cwmni yn ei wneud yn y dyfodol, yn seiliedig ar y pethau pwysicaf i ddefnyddwyr yng Nghymru."
Dylai cwsmeriaid sydd eisiau cael eu hystyried ar gyfer y fforwm ebostio eu henw, cyfeiriad a rhif ffôn at fforwm@sse.com neu ffonio 0800 0727258. Bydd cwsmeriaid SSE SWALEC yn cael eu dewis i adlewyrchu amrywiaeth o broffilau a phrofiadau.